Ein Prosiectau | Our Projects

Cyffordd gyfieithu yw Cyfnewidfa Lên Cymru sy’n cysylltu awduron, cyfieithwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru a thramor. Asiantaeth fechan ydym sy’n ffenest rhwng Cymru a’r byd: yn hwyluso gwerthu hawliau cyfieithu, yn gweinyddu grantiau cyfieithu ar gyfer cyhoeddwyr, yn weithdy sy’n tynnu ynghyd awduron a chyfieithwyr, yn llyfrgell o gyfieithiadau, ac yn guradur digwyddiadau llenyddol rhyngwladol.

Wales Literature Exchange is the translation junction connecting writers, translators and publishers in Wales and abroad. The Exchange is small, but many things: an agency facilitating the sale of translation rights, a translation grant fund for publishers, a workshop bringing together writers and translators, a library of translations, and a curator of translation events. In essence, we are a window between Wales and the world.


Nod Llenyddiaeth ar draws Ffiniau (LAF) – Platfform Ewropeaidd ar gyfer Cyfnewid Llenyddol, Cyfieithu a Thrafod Polisi yw datblygu deialog rhyng-ddiwylliannol drwy lenyddiaeth a chyfieithu a hyrwyddo cyfieithiadau nad ydynt yn cael fawr o sylw. Rydym yn cynnal ymchwil, yn cyfrannu at drafodaethau polisi ac yn darparu adnoddau a gwybodaeth ar-lein ar y sector llenyddol rhyngwladol.

Literature Across Frontiers (LAF) – European Platform for Literary Exchange, Translation and Policy Debate aims to develop intercultural dialogue through literature and translation and highlight less translated literatures. We conduct research, contribute to strategic policy debates and provide online resources and information on the international literary sector.


Mae Wales PEN Cymru yn un o’r 145 o ganolfannau PEN mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd. Mae’n gysylltiedig â PEN Rhyngwladol, prif lais llenyddiaeth ledled y byd.

Mae PEN yn hybu llenyddiaeth ac yn amddiffyn rhyddid mynegiant. Mae’n ymgyrchu ar ran ysgrifenwyr o bob cwr y byd sy’n cael eu herlid, eu carcharu, eu poenydio neu’n dioddef o ymosodiadau oherwydd eu gwaith ysgrifennu. Mae iddo bwyllgorau yn cynrychioli ysgrifenwyr yn y carchar, hawliau ieithyddol a chyfieithu, merched sy’n ysgrifennu ynghyd â phwyllgor heddwch.

Wales PEN Cymru is one of the 145 PEN centres in more than 100 countries across the world. It is affiliated to PEN International which is the leading voice of literature worldwide.

PEN promotes literature and defends freedom of expression. It campaigns on behalf of writers around the world who are persecuted, imprisoned, harassed and attacked for what they have written. It has committees representing writers in prison, translation and linguistic rights, women writers and a peace committee.